DIOLCH AM FYWYD A CHYFRANIAD Y PARCHEDIG DAVID ISLWYN DAVIES

Yn ymadawiad y Parchg. Islwyn Davies collwyd un a wnaeth gyfraniad tra sylweddol i fywyd eglwysi enwad y Bedyddwyr ac i’r dystiolaeth Gristionogol yn gyffredinol yng Nghymru. Fe’i ganed ar 24 Mawrth 1927, yr hynaf o bedwar plentyn Coslett a Morfydd Davies, Pont-lliw, teulu oedd pharch mawr i’r “pethe”, ac eglwys Carmel yn gartref ysbrydol iddynt. Yno, o dan weinidogaeth y Parchgn. Emlyn Caradog Roberts a Rhydwen Williams, y cafodd Islwyn ei feithrin yn y Ffydd, ac nid anghofiodd fyth y graig y naddwyd ef ohoni. Derbyniodd ei addysg gynnar yn ysgol y pentref ac yn Ysgol Ramadeg Tre-gþyr. Yna, yn unol â gofynion gwasanaeth milwrol cenedlaethol (fel yr oedd ar y pryd), treuliodd dair blynedd yn y llynges. Er ei bod yn anodd dychmygu cymeriad mor heddychlon ag Islwyn yn lifrai’r llynges, ni bu’r profiad yn ofer. Yn un peth, fe’i penodwyd yn ysgrifennydd i gapten y llong yr hwyliai arni, gwaith a fyddai’n troi’n elw iddo yn nes ymlaen. Yn bwysicach na hynny, yn ôl tystiolaeth Rhydwen (ac ni fyddai Islwyn yn ôl mewn cydnabod ei werthfawrogiad o’r hyn a glywsai o enau Rhydwen ym mhulpud Carmel), daeth adref, yn groes i brofiad llawer o fechgyn y cyfnod, â’i ffydd wedi ei chadarnhau. Erbyn hyn yr oedd y seiliau’n sicr.

ADDYSG

Yn 1948 dechreuodd ar ei yrfa fel myfyriwr yng Ngholeg Prifysgol Abertawe, gan brofi ei allu academaidd diamheuol trwy ennill iddo’i hun radd anrhydedd dosbarth cyntaf yn y Gymraeg. Gwahoddwyd ef gan yr Athro Henry Lewis i ymuno â staff yr adran, ond gwrthod a wnaeth gan fod ei fryd ar waith y weinidogaeth. Derbyniodd ei hyfforddiant diwinyddol yng Ngholeg Presbyteraidd Caerfyrddin, ac yna yn 1966 (ac y mae’n bwysig nodi na pheidiodd Islwyn â bod yn fyfyriwr ar hyd ei oes), dyfarnwyd gradd MA (Cymru) iddo am draethawd ymchwil ar “Y Darlun o’r Gweinidog yn Llenyddiaeth Cymru”. Yn 1955 ordeiniwyd ef i’r weinidogaeth yn Rehoboth, Llansawel, ac yntau, erbyn hynny, yn þr priod. Yn Beti (George cyn priodi; un a fagwyd ym Moreia, Brynaman) cafodd Islwyn wraig a fu’n gymar delfrydol ac yn gefn cadarn iddo ym mhob agwedd o’i waith. Yn ystod cyfnod Llansawel y ganwyd y meibion: Hywel, a ddaethai’n hanesydd, awdur y gyfrol safonol Transatlantic Brethren (1995) (sy’n olrhain hanes yr ohebiaeth a fu rhwng Bedyddwyr ar y ddwy ochr i’r Iwerydd yn ystod y ddeunawfed ganrif), ac a fu, cyn ymddeol, yn aelod o adran weinyddol Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth; ac Iwan, a raddiodd yn uchel yn y Gyfraith, ac a benodwyd yn ddiweddar (er mawr lawenydd i bawb ohonom) yn Is-Ganghellor Coleg Prifysgol Bangor. Yn 1961 derbyniodd Islwyn alwad i eglwys Caersalem Newydd, Tre-boeth, Abertawe, ac o fewn dim enillodd barch ac ymddiriedaeth ei bobl, nid yn unig ar gyfrif ei fugeiliaeth sensitif o’r praidd, ond hefyd oherwydd trylwyredd ei baratoi ar gyfer ei bulpud, a adlewyrchai ei ddarllen eang a’i fyfyrdod cyson. Ystyriai bregethu yn rhan greiddiol, anhepgor o waith gweinidog, ac nid oedd yn syndod, pan wahoddwyd ef i draddodi darlith yng nghyfres Darlithoedd Coffa Dewi Gravelle (hynny ar 24 Medi 1997 yng nghapel Calfaria, Clydach), iddo ddewis traethu ar “Addoli a’r Pregethwr”. Gwir a ddywedwyd nad ysgrifennydd yn digwydd bod yn bregethwr oedd Islwyn Davies, ond pregethwr a’i cafodd ei hun yn swydd ysgrifennydd.

GOLYGYDD

Ar ben ei ddyletswyddau gweinidogaethol ymgymerodd yn 1973 (hyd at 1976) â golygyddiaeth Seren Cymru, yn olynydd i’r Parchg. D. Eirwyn Morgan. Cefais innau’r fraint o fod yn gyd-olygydd ag ef am ran o’r cyfnod hwn; cyfarfyddem â’n gilydd ben bore Llun i roi trefn ar y rhifyn dilynol o’r wythnosolyn, a pharatoi’r llith olygyddol yn ein tro. Afraid dweud i’r cydweithio hwn fod yn fodd i ddyfnhau’r cyfeillgarwch oedd eisoes yn bodoli rhyngom. Yn 1976 symudodd unwaith eto, nid i eglwys y tro hwn ond i bencadlys Undeb Bedyddwyr Cymru yn Nhÿ Ilston, Abertawe. Penodwyd ef yn Gyd-Ysgrifennydd i ddechrau ac yna, y flwyddyn wedyn, yn Ysgrifennydd Cyffredinol. Prin y gellid meddwl am neb cymhwysach i olynu’r Parchg. M. J. Williams. Roedd ei ddysg, ei ddoniau gweinyddol, ei feddwl craff, trefnus, disgybledig, ynghyd â’i osgo bonheddig, enillgar yn arfogaeth effeithiol iddo wrth fwrw iddi i gyflawni’r dasg a’i hwynebai. Mae’n amlwg ddigon y syniai ei ragflaenydd yn uchel iawn amdano: “Ym mis Medi 1977 derbyniodd yr awennau yn llwyr i’w ddwylo ei hun. Tystiolaeth gyffredinol Bedyddwyr Cymru ... yw fod y dwylo hynny yn rhai cadarn a diogel. Y mae’n ysgrifennydd rhagorol, yn drefnydd doeth, yn chwaethus ei ymadrodd, boed ysgrifenedig neu lafar, ac yn þr cwrtais a chyfeillgar.” Gall pawb ohonom a gafodd y fraint o adnabod gwrthrych y deyrnged hon ei hategu’n llawen.

LLYWYDD

Mae’n ffaith ddiddorol mai oddi mewn i gylch Cymanfa Gorllewin Morgannwg y cyflawnodd Islwyn y cyfan o’i weinidogaeth, ac yn 1986 gwelodd y gymanfa honno yn dda i’w anrhydeddu â’i llywyddiaeth. Testun ei anerchiad o’r gadair oedd “Yng Nghrist”; ynddo pwysleisiodd fod pob Cristion unigol yn rhan o gymdeithas yr eglwys, sef corff Crist, ac “nad oes y fath beth yn bod â 8 Seren Cymru Gwener, Mehefin 19eg 2020 Cofio Islwyn Davies: parhad o dud. 7 Interniaeth Rebekah: parhad o dud. 1 Christion annibynnol.” Ar ei ymddeoliad o Dÿ Ilston yn 1992, ar ben un mlynedd ar bymtheg o wasanaeth difefl, neilltuwyd ef yn llywydd Adran Gymraeg Undeb Bedyddwyr Cymru, a’r tro hwn rhoed iddo’r cyfle i draddodi ei anerchiad o bulpud ei fam eglwys, hynny ar y testun, “Cymdeithas ei Ddioddefiadau”. Yr eglwys a hawliai ei sylw unwaith eto; hithau, meddai, wedi ei galw “nid yn unig i gyffesu Crist; i ganlyn Crist; i gyd-weithio â Christ ond hefyd i gydddioddef gydag Ef” ynghanol dryswch a chymhlethdod y byd. Dyma Islwyn, felly, yn ymryddhau o’i gyfrifoldebau gweinyddol, ond nid oedd ymddeol i fod, oherwydd ym Mawrth 1992 sefydlwyd ef yn weinidog yr eglwys lle magesid ef, gan barhau felly am y pedair blynedd ar ddeg dilynol. Gwnaeth lawer o waith arloesol ym Mhont-lliw, yn enwedig gyda’r ifanc; mewn gwirionedd, ar ôl i ddrws capel Peniel gau, daeth yn weinidog i’r gymuned gyfan. Diwrnod i’w gofio oedd hwnnw pan agorwyd festri newydd Carmel, yn cynnwys cegin fodern, bwrpasol.

GLYN NEST

Yn Ionawr 2018 penderfynodd Islwyn a Beti adael eu cartref ym Mhontarddulais ac ymgartrefu yng nghartref preswyl Glyn Nest. Erbyn hyn roedd cyflwr iechyd Islwyn yn gwanhau, ac yntau eisoes wedi ei gofrestru yn berson dall. Y mae’n glod arbennig i’r gofal a’r gefnogaeth a gawsant gan staff y cartref i’r ddau ohonynt, mewn byr amser, deimlo’n berffaith ddedwydd ar eu haelwyd newydd. Yno, yn dawel ac yn dangnefeddus, yr hunodd Islwyn ar fore Sul, 24 Mai, ac yntau’n 93 oed. Cydymdeimlwn yn ddwys â Beti (bu hithau ac Islwyn yn dathlu eu priodas saffir glas – 65 mlynedd – yng Ngorffennaf 2018), Hywel ac Iwan a’u teuluoedd, ynghyd â Trefor ac Eluned (brawd a chwaer Islwyn) yn eu galar. Wrth holi Islwyn sut y teimlai, yn ateb yn ddieithriad fyddai (ac roedd hyn yn gwbl nodweddiadol o’i ysbryd hynaws a gwerthfawrogol), “Testun diolch sy’ gen i”. Testun diolch sydd gennym ninnau hefyd, a hwnnw’n ddiolch didwyll i Dduw, am un a fu’n gyfaill ffyddlon, yn frawd llawn cydymdeimlad â’i gydweinidogion, yn Gristion gloyw, ac yn bennaf oll yn was da i’r Arglwydd Iesu Grist.

Coffa da amdano.

Desmond Davies