Teyrnged i’r Parchg Islwyn Davies

Gan y Parchg Irfon Roberts

Darllenais mewn rhifyn diweddar o’r Seren deyrnged y Parchedig Ddr. Desmond Davies, Caerfyrddin, i’r Parchedig D. Islwyn Davies - teyrnged lwyr haeddiannol i un a gyfrannodd gymaint i’w enwad a thu hwnt iddo fel pregethwr, gweinyddwr a bugail.

F’unig fwriad wrth ysgrifennu fel hyn yw rhannu â darllenwyr Cwlwm ein balchder i Glyn Nest gael y fraint o weini i’w anghenion adeg y cyfnod o ddwy flynedd a hanner y bu gyda ni cyn ei farw.

Ni fu rhwng muriau’r Cartref neb mwy gwerthfawrogol o’r gofal dderbyniodd. Ei air cyntaf, bron yn ddieithriad, fyddai diolch. Diolch fyddai ei air olaf hefyd. Diolchai am bob caredigrwydd ddoi i’w ran, am bob ymweliad ac ymwelydd yn ei dro ac am bob sgwrs a chyfle i hel atgofion am oedfaon a phregethwyr a hen ffyddloniaid a gofiai.

Ymhyfrydai mewn cael arwain rhai o wasnaethau addoli y Cartref, ond yr hyn a roddai’r mwyaf o hyfrydwch iddo oedd gwrando ar weinidogion eraill yn canmol y Meistr y bu iddo ef dreulio’i fywyd yn ei ddyrchafu a’i ganmol.

Tystia pawb a’i hadnabu iddo fod yn ŵr hawddgar ac addfwyn - yn ymgorfforiad o’r gostyngeiddrwydd hwnnw sydd i nodweddu’r Cristion. Er yn gaeth i’w gadair taflodd ei gysgod dros weddill deiliaid y Cartref gan brofi ei hun yn esiampl loyw o’r math ymddygiad y disgwylir i ddilynwr Iesu ei arddangos.

O’i glywed yn siarad a rhannu o’i brofiad buan iawn y sylweddolem ein bod ym mhresenoldeb rhywun gwahanol - ei fod yn berson i’w edmygu a’i barchu.

Daw i gof eiriau o’i ddarlith ‘Addoli A’r Pregethwr’. (Darlith Goffa Dewi Gravelle yng Nghalfaria Clydach, Medi 1997.) “Person yw Duw. Person i’w adnabod yng Nghrist. Person sy’n galw pobl i berthynas bersonol a chyfamodol ag Ef ei Hun drwy Grist. Person i’w garu.”

Cofir Islwyn Davies fel un a oedd mewn cymaint cariad â’i Dduw fel iddo gysegru ei ddoniau helaeth i’w wasanaethu. Mawrygwn ein braint i ni yng Nglyn Nest gael yr anrhydedd o’i hebrwng y rhan olaf o’i daith a diolchwn i’w deulu am ei ymddiried i’n gofal.

Deisyfwn ar i Dduw fendithio ei briod Beti, ei feibion Hywel ac Iwan, ei ferched yng nghyfraith Susan a Katherine, ei wyrion Rhys, Elidir, Aled ac Osian, ei or-wyrion Ethan ac Emelia, yn ogystal â Trefor ac Eluned, y ddau ohonynt yn uchel eu parch gennym fel enwad.

Derbyniwyd er cof am Islwyn swm anrhydeddus iawn o arian – cyfraniad yn adlewyrchu’r parch mawr a oedd iddo – a diolchwn i’w deulu am fynegi mewn modd ymarferol fel hyn eu gwerthfawrogiad hwy o ofal staff Glyn Nest o’u hanwylun.