Bedyddwyr Gorllewin Morgannwg

 

West Glamorgan Baptists

 

 

M

G

B

B

G

Y mae’n bleser gennym groesawu Gwefan newydd Bedyddwyr Gorllewin Morgannwg, a dymunwn i’r tim sydd yn ei reoli bob hwyl a bendith yn y gwaith cyffrous hwn.

Golygyddion y Gigfran Wen

Cyfarchion

Eglwys Y Tabernacl, Yr Aes, Caerdydd

 

Mae’n hyfryd deall fod Cymanfa Gorllewin Morgannwg wedi creu gwefan o’r newydd, yn etsyn cyfle ar gyfer eich aelodau i ddal cyswllt cryfach gyda’ch gilydd. Un o nodweddion cadarnhaol y Beyddwyr yw ein bod yn parchu ein hannibyniaeth wrth ddatblygu rhwydweithiau. Teulu yw’r gymuned Gristnogol, ac mae’r wefan hon yn help i’w hyrwyddo. Gobeithiwn y bydd modd i ni rannu llawer o adnoddau gyda’n gilydd i’r dyfodol, ac y bydd y Deyrnas ar gynnydd wrth i bobl y ffydd ddwyn tystiolaeth fel hyn. Boed i Grist fendithio’r gweithgarwch er ei glod.

Denzil Ieuan John

(Gweinidog)

Y mae Undeb Bedyddwyr Cymru yn dymuno llongyfarch Cymanfa Bedyddwyr Gorllewin Morgannwg ar achlysur lansio gwefan newydd ac i ddwyn ei chyfarchion cynhesaf a’i dymuniadau da i’r fenter gyffrous hon.

Mewn cyfnod pan mae cyfathrebu effeithiol yn gwbl hanfodol, y mae sefydlu gwefan fel hon yn gam cadarnhaol i hwyluso gwybodaeth i’r eglwysi, i unigolion ac i’r gymuned. Mawr obeithiwn y bydd yn fenter lwyddiannus, ac yn fodd i ymestyn ein cenhadaeth a’n gweinidogaeth fel enwad. Y nod yw dyrchafu Iesu yn Arglwydd Bywyd a’r gobaith ydyw cefnogi a chalonogi’r eglwysi i sylweddoli’r nod hwnnw o fewn eu trefniadaeth a’u traddodiad.

Y Parchg Peter M. Thomas

Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb Bedyddwyr Cymru

Bendith ar y gwaith!!

Mae’n hyfrydwch eich croesawu i fyd y wefan gan obeithio y bydd y cyfrwng pwysig hwn yn gyfle i chi ymestyn eich cenhadaeth. Rydym yn byw ym myd y cyfrifiadur sydd wedi newid yn ddramatig y ffordd fyddwn yn cyfathrebu. Y mae’n gyfle gwych i ehangu’r modd y gallwn gyrraedd pobl gan ddefnyddio’r dulliau mwyaf modern i gyfleu’r Gwirionedd.

 

Dweud stori yw’r nod, gan gyrraedd pobl ble ma’ nhw, ac mewn dull y maent yn hollol gyfarwydd ag ef.

Mae’n werth cofio bod gan yr Arglwydd gyfrwng ar gyfer pob cyfnod a’n cyfrifoldeb ninnau yw defnyddio pob cyfrwng sydd gennym i hyrwyddo’r neges.

Peter Dewi Richards

Ar ran Eglwys Gymraeg Canol Llundain.

Cyfarchion a dymuniadau gorau i’ch gwefan newydd. Y mae gennym neges am newyddion da mewn cyfnod a byd sy’n llawn o newyddion drwg, a’n cyfrifoldeb ydyw defnyddio pob cyfrwng posibl i’w throsglwyddo. Boed i’r Arglwydd arddel a bendithio’r fenter hon a’ch gwaith.

Y Parchg Olaf Davies

Llywydd Undeb Bedyddwyr Cymru

W

Cyfarchion

Anerchiad

Capel Gomer

Undeb Llanelli 2010

 

Digwyddiadau

Hafan

Hanes

Gwefannau

Swyddogion

Yr Eglwysi

English

Eglwysi Treforus

 

Cyfarchion Eglwys Carmel, Pontlliw

 

 

AT SWYDDOGION CYMANFA BEDYDDWYR GORLLEWIN MORGANNWG.

 

 

Ar ran swyddogion ac aelodau Eglwys Iesu Grist yng Ngharmel, Pontlliw, dymunwn anfon cyfarchion atoch wrth i chi ddechrau ar fenter newydd yn eich hanes, sef gosod y Gymanfa ar y we.  'Rydym ni yng Ngharmel eisoes wedi gwneud hyn, ac wedi elwa oddi wrtho.   Gweddïwn y bydd llaw Duw yn eich arwain wrth i chi ddechrau ar eich menter newydd.

 

Yr eiddoch yn yr Arglwydd.

 

E. Malcolm Edwards.

(Ysgrifennydd).`