
|
Bedyddwyr Gorllewin Morgannwg
West Glamorgan Baptists
|
|
M |
|
G |
|
B |
|
B |
|
G |
|
Cau Capeli |
|
W |
|
Cyfarchion |
|
Anerchiad |
|
Capel Gomer |
|
Undeb Llanelli 2010 |
|
Digwyddiadau |
|
Hafan |
|
Hanes |
|
Gwefannau |
|
Swyddogion |
|
Yr Eglwysi |
|
English |
|
Eglwysi Treforus |
|
Horeb, Sgiwen Eglwys y Bedyddwyr 1869 - 2009 Fe ddaeth cynulleidfa deilwng ynghyd i’r Gwasanaeth Datgorffori ar Ddydd Mercher, Ionawr 20fed, 2010. Er bod yr achlysur yn ei hanfod yn un trist, eto i gyd fe lwyddwyd, o dan lywyddiaeth medrus Y Parchg Robert Bawden, llywydd Cymanfa Gorllewin Morgannwg, i ganfod y gobeithiol a’r cadarnhaol o gofio er bod Capel yn cau, bod tystiolaeth y Crist atgyfodedig yn dal yn fyw. Darllenwyd gan un o gyn-weinidogion Horeb, y Parchg Vincent Watkins, a hynny o lyfr y Pregethwr - tymor i bopeth, ac o Epistol Cyntaf Paul at y Corinthiaid Pennod 13. Y Parchg Aled Jenkins, un o blant Horeb, a’n harweiniodd mewn gweddi ddwys a theimladwy cyn i’r brawd Glyndwr Gough, ysgrifennydd Horeb am y pedair mlynedd ar ddeg diwethaf, rhoi gwen ar ein gwynebau a llawenydd yn ein calonnau wrth olrhain gwaith a thystiolaeth yr Eglwys dros gynifer o flynyddoedd. Y Parchg Euros Miles, Arolygwr y Gymanfa, a bregethodd yn afaelgar ac effeithiol ar y rhinweddau y sonnir amdanynt gan yr Apostol Paul yn 1 Corinthiaid 13, sef ffydd gobaith a chariad. Y Parchg Aled Jenkins fu’n gyfrifol am ddefod y datgorffori, ac wedi geiriau dwys a dethol, fe gyflwynodd Beibl y Pulpud i ofal Mrs Eurfron Gough a dderbyniodd ar ran y chwaer Eglwys, Calfaria Sgiwen. Gorffennwyd yr oedfa yn sŵn yr emyn a’r geiriau cwbl obeithiol “Cododd Iesu” I Dduw bo’r clod a’r diolch am 140 o flynyddoedd o bregethu a thystio i’r Arglwydd Iesu yn Horeb Sgiwen.
Cau Capel Bethel, Pont-rhyd-y-fen. Daeth cynulleidfa luosog ynghyd ar brynhawn Sul, 6ed Rhagfyr, i oedfa datgorffori eglwys Bethel, Pont-rhyd-y-fen. Yn eu plith yr oedd aelodau’r eglwys ym Methel ynghyd â chynrychiolwyr o Gymanfa Bedyddwyr Gorllewin Morgannwg ac Undeb Bedyddwyr Cymru. Yr oedd yn achlysur dwys a thrist a bu’n benderfyniad anodd i’r aelodau sy’n weddill ddirwyn yr achos i ben. Bu’r cyfrifoldeb o gynnal adeilad a oedd yn prysur ddadfeilio a’r pydredd oddi mewn iddo’n rhemp, brofi’n ormod o faich i’r ddiadell fechan. Wrth gydymdeimlo â hwy yn eu gwewyr, diolchwn iddynt am eu dycnwch a’u dyfalbarhad ar hyd y blynyddoedd. Corfforwyd eglwys Bethel ym 1850 a chynhaliwyd o fewn muriau’r capel dystiolaeth egnïol i’r Arglwydd Iesu am yn agos i 160 o flynyddoedd. Llywiwyd oedfa’r datgorffori, a hynny ar wahoddiad yr eglwys, gan y Parchg. Peter M. Thomas, Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb Bedyddwyr Cymru. Cyfeiriwyd at y ffaith mai pobl yw’r eglwys ac nid lle, praidd ac nid corlan, cynulliad crediniol ac nid adeilad cysegredig. Tanlinellwyd y ffaith, er ein bod yno i gau’r adeilad, y byddai eglwys Crist yn brasgamu ymlaen yn ei thystiolaeth a’i chenhadaeth. Cafwyd gwefr wrth gyd-addoli ac fe erys y digwyddiad yn atgof cysegredig i’r rhai a oedd yno’n bresennol. Diolchwn i Miss Rita Rosser ( ysgrifenyddes yr eglwys) am ei gwasanaeth wrth yr organ a’i hymroddiad i ganiadaeth y cysegr ym Methel ar hyd y blynyddoedd ac i Miss Nerys Owen am y datganiad gwefreiddiol o’r salm-dôn yn seiliedig ar eiriau o Salm 86 “Clyw O Arglwydd fy ngweddi a gwrando ar fy ymbil.” Cyflwynodd Mr Phylip Rosser eiriau dethol a graenus o werthfawrogiad ac ef a gariodd y Beibl Mawr o’r pulpud ac allan o’r adeilad ar derfyn yr oedfa. Cariwyd Beibl Eglwys Jerwsalem a oedd wedi ymuno â chynulleidfa Bethel wedi i’r capel hwnnw gau, gan Mr Geraint Jenkins. Mawrygwn enw’r Arglwydd am yr achos ym Methel, Pont-rhyd-y-fen. Boed i Dduw droi ein machludoedd yn wawr gobaith, ein siom yn llawenydd a’n methiant yn gyfrwng bywhad. |
|
Cau Capeli Horeb, Sgiwen Eglwys y Bedyddwyr 1869 - 2009 Capel Bethel, Pont-rhyd-y-fen Cliciwch yma
|
|
Seion Cwmgors 1894 - 2010
Ar brynhawn Mercher, Hydref 20fed, 2010, death tua 24 at eu gilydd i ddatgorffori'r Eglwys uchod. Cynrychiolwyd Cymanfa Bedyddwyr Gorllewin Morgannwg ym mhersonau'r brawd J Brian Humphreys, y trysorydd Miss Meinir George a’r ysgrifennydd Y Parchedig Vincent Watkins. Death ymddiheuriad oddiwrth yr arolygwr, Y Parchedig D.Eiros Miles, oedd yn analluog i fod yn bresennol. Ysgrifennydd cyffredinol ein henwad oedd yn llywyddu'r oedfa. Yn ôl ei arfer, gwnaeth Y Parchedig Peter Thomas hynny gydag urddas defosiynol. Darllenwyd Salm 84 gan lywydd y Gymanfa cyn i Peter draethu ar adnod 5 “a ffordd y pererinion yn eu calon” neges gyfoes, gobeithiol, gynnes a gyfoethog. Ysgrifennydd Y Gymanfa arweiniodd yr Oedfa Gymun ac wedi’r emyn olaf a’r fendith, cariwyd y Beibl allan gan ysgrifenyddes yr Eglwys, Mrs Mary Lewis, gyda’r gynulleidfa’n dilyn. Cofiwn mai capel a gaewyd, ond mae’r dystiolaeth Gristnogol ac Awdur Bywyd o hyd yn fyw. H. Vincent Watkins Ysgrifennydd Cymanfa Bedyddwyr Gorllewin Morgannwg. |
|
Cymanfa Bedyddwyr Gorllewin Morgannwg Cyrddau Hanner Blynyddol Cynhaliwyd eleni yn Smyrna Penyfai ar Ddydd Mercher Hydref 13, 2010.
Wedi gair o groeso gan ein llywydd, y brawd J. Brian Humphreys, a gair o weddi, rhannodd y cynrychiolwyr i dri is-bwyllgor sef Pwyllgor y Weinidogaeth, Pwyllgor Efengylu a Fforwm Ffydd. Cafwyd amser buddiol a bendithiol yn trafod pethau o bwys parthed Eglwys a Theyrnas yr Arglwydd Iesu. Wedi te blasus (a diolchwn i Weinidog ac aelodau Smyrna am y paratoadau ardderchog) ail ymgynnull i oedfa’r hwyr. Roedd y rhannau arweiniol yng Ngofal y Parchedig Alistair Swinford, gweinidog Smyrna, a chafwyd pregeth heriol yn ogystal â’r defosiwn. Yna cafwyd cyflwyniad byr gan y brawd John Derek Rees o’r flwyddyn gyntaf yng Nghapel Gomer. Calonogol ac ysbrydoledig yn wir - mae Duw ar waith. Adroddiadau’r is-bwyllgorau ac adroddiad o weithgarwch y Cyrddau Dosbarth ddaeth nesaf (i gyd ar ffeil). Yna gair gan y brawd Hugh Roberts ynglŷn â gofynion y C.R.B. Canwyd emyn a chyhoeddwyd y fendith. O.N. Carwn ddiolch i Mrs Catrin Alun am ei gwaith clodwiw fel cyfieithydd. O.N. Cyfeiriwyd at dostrwydd Y Parchg Hugh Francis a Gareth Hutchinson a gwraig y Parchg Alun Petty, sef Marjorie ynghyd a marwolaeth y Parchg Bryan John a mam y Parchg Sion Alun, sef Mabel. Cofiwn yn weddigar amdanynt i gyd. O gyfeirio at y Parchg Gareth Hutchinson, fe’i longyfarchwn ef ar ddathlu ohono hanner can mlynedd yn y weinidogaeth eleni. Da was da a ffyddlon. |