Bedyddwyr Gorllewin Morgannwg

 West Glamorgan Baptists

WGB

BGM

Cymanfa Bedyddwyr Gorllewin Morgannwg

Cyrddau Hanner Blynyddol a gynhaliwyd yn Ebenezer Aberafan ar Ddydd Mercher Hydref19eg, 2011 o dan lywyddiaeth medrus llywydd y Gymanfa, Y Bugail Henry Dunn Williams.

Dechreuwyd y Gynhadledd am 3 o’r gloch y prynhawn gyda gair o groeso a gweddi agoriadol gan ein llywydd.

Rhannwyd i dri is-bwyllgor  - Y Weinidogaeth; Efengylu; Eglwys a Chymdeithas ac fe gafwyd trafod brwd a buddiol.

Am 4.30 cafwyd te ysgafn a diolchwyd i Mrs June George a chwiorydd hynaws Ebenezer am y paratoi trylwyr.

Yna, am 6 o’r gloch yr hwyr, wedi’r defosiwn agoriadol, eto dan ofal ein llywydd, cafwyd cyfle arall i fwynhau cyflwyniad y Gymanfa. Er i lawer ohonom gael y cyfle i weld y cyflwyniad adeg yr Undeb ym Mhenuel Casllwchwr eleni, roedd y wefr a’r fendith yn dal mor ffres ag erioed. Diolch i’r Parchg. Eirian Wyn a’i dîm am eu holl ymdrechion.

Yna bu ysgrifenyddion y gwahanol bwyllgorau yn crynhoi trafodaethau y prynhawn.

Y Weinidogaeth.

Prif bwyntiau. Ian Hughes wedi dechrau yn Seion Llanelli am flwyddyn; Vivian Rees wedi ymddeol; Peter Harries Davies wedi sefydlu ym Methesda Glanaman; Richard Taylor yn weinidog Lleyg Calfaria Sgiwen; Steven Lee wedi sefydlu ym Mracla Penybont; Oedfa Ordeinio John Derek Rees Sadwrn yma.

Efengylu

Prif bwyntiau. Agor y llyfr yn yr ysgolion Cymraeg yn llwyddiant – ymestyn i gynnwys Ysgol Gymraeg newydd Tan-y-Lan Treforus. Newid enw’r pwyllgor i Bwyllgor y Genhadaeth. Anfon llythyr i Didcot ynglyn â chynrychiolydd y BMS yng Nghymru.

Eglwys a Chymdeithas

Cau ysgolion oedd gofid pennaf y pwyllgor hwn.

 

O dan unrhyw fater arall trafodwyd

Llythyr y Parchg Victor Evans yn gofyn i’r Gymanfa i wneud cais i’r llwyfan am gael neilltio ystafell yng Nghapel Gomer yn ystafell ymchwil a fydd yn gartref i’r llyfrau a fu hynt yn Nhŷ Ilston. Derbyniwyd yr awgrym

Codi tanysgrifiadau i’r Gymanfa o £1 y pen i £2 o fis Ionawr 2012.

Cyfeiriwyd at y rhoi sy’n dost, Y Parchedigion Tegfan Griffiths; Alun Petty a’i briod Marjorie; Hugh Francis a Sion Alun ac anfonwyd cyfarchion atynt.

Diolchodd llywydd yr Undeb y brawd Glyndwr Prideaux am gefnogaeth parod y Gymanfa adeg y cyrddau blynyddol ym Mhenuel Casllwchwr.

Canwyd emyn a chyhoeddwyd y fendith.

 

Os Duw a’i myn, awn i Seion Newydd Treforys ym Mis Mai (28 – 30) 2012 i anrhydeddu ein darpar lywydd, Miss Aldyth Williams a dyrchafu enw’r Iesu   - yr enw sydd goruwch pob enw arall.

H. Vincent Watkins

Ysgrifennydd.