

|
Bedyddwyr Gorllewin Morgannwg
West Glamorgan Baptists
|
|
M |
|
G |
|
B |
|
B |
|
G |
|
Capel Gomer |
|
W |
|
Cyfarchion |
|
Anerchiad |
|
Capel Gomer |
|
Undeb Llanelli 2010 |
|
Digwyddiadau |
|
Hafan |
|
Hanes |
|
Gwefannau |
|
Swyddogion |
|
Yr Eglwysi |
|
English |
|
Eglwysi Treforus |

|
Ar Ddydd Sul y 31ain o Ionawr gwelodd Capel Gomer y bedydd cyntaf o dan ofal John Derek Rees. Bedydd Iestyn ap Hywel ydoedd, ffrind i Derek ers ddyddiau ysgol gynradd. Roedd y gynulleidfa yn cynnwys tua deuddeg o fynychwyr Capel Gomer ac ychydig o ymwelwyr newydd i'r Capel i'r achlysur arbennig hon. Dechreuwyd y cyfarfod gyda Helen Ruth-Mathews yn ein croesawu i'r cyfarfod ac yn darllen Psalm cant trideg. Canon ni gan gyda'r gitarau a'r allweddell. Yn chwarae'r gitarau oedd Llŷr ac Iestyn ac ar y allweddell oedd Llinos Angharad. Rhoddodd Iestyn ei dystiolaeth tra gwrandawodd pawb yn astud arno. Ar ôl i Iestyn rhoi ei dystiolaeth siaradodd Derek. Roedd y ddau wedi bod yn ffrindiau ers blynyddoedd maith ac roeddent wedi rhannu profiadau crefyddol, roedd rhain yn cynnwys bod yn rhan o glwb ieuenctid crefyddol yng Nghaerdydd pan yn ifanc, ac yn awr yn gweithio gyda'i gilydd i wneud Capel Gomer yn lle cyfeillgar a chroesawgar. Adroddodd Derek a Iestyn straeon o'i dyddiau ysgol ac dywedwyd nad oeddent, pan yn blant, erioed wedi disgwyl y byddai Derek rhyw ddydd yn bedyddio ei ffrind. Darllenodd Derek o'r Beibl, hanes Iesu yn cael ei fedyddio gan Ioan Fedyddiwr, cefnder a ffrind agos Iddo. Roedd y darlleniad yn berthnasol iawn. Gweddïon gan ddiolch am ei holl fendithion a gofyn Iddo fendithio'r bedydd a gofalu dros Iestyn ac i helpu Iestyn i nesáu at yr Arglwydd. Wrth i Iestyn a Derek fynd i mewn i'r baddon ymgasglodd y gynulleidfa o amgylch y baddon er mwyn bod yn agos i'r bedydd. Gweddïon ni dros Iestyn eto ac cafodd ei fedyddio. Wrth ddisgwyl i Iestyn a Derek newid i mewn i ddillad sych canodd y cynulleidfa gân arall. Ar ôl iddynt ddychwelyd cymerom Cymun i orffen y wasanaeth. Wedyn daeth y bwyd, roedd yna amrywiaeth eang o fwyd, gwledd i fod yn gywir. Roedd y bwyd yn cynnwys teisen siocled blasus, treiffl trwchus a brechdanau di-ri. Treulion ni orau wedyn yn siarad gyda'n gilydd fel y ffrindiau da yr ydym. Roedd yn fedydd emosiynol ac yn ddechrau addawol i Gapel Gomer. Gobeithio bydd Capel Gomer yn parhau gyda'r ansawdd uchel yn y dyfodol. Mae Capel Gomer wedi dod yn ail-gartref i ni fel mynychwyr Capel Gomer ac roedd y bedydd wedi dod â ni i gyd yn agosach at ein gilydd. Rydym, fel Capel wedi gweld twf mewn niferoedd yn ddiweddar ac gobeithio y bydd y twf yma'n parhau yn y dyfodol.
Euros ap Hywel |
|
Bu cryn ddisgwyl ymlaen ymysg Bedyddwyr Cymru at y cyfarfod ddydd Sadwrn yng Nghapel Gomer, Abertawe. Teithiodd rhai o hirbell, rhai o agos a dau hyd yn oed wedi dod i lawr ar drenau Arriva Cymru o Wrecsam, y Parchg. Rhun Murphy a'i gyfaill Eirwyn Jones. Pe bae'r Annibynwyr a'r Presbyteriaid am ddod a dyfodol y dystiolaeth Fedyddiedig i ben yng Nghymru ag un ergyd strategol yna Caradock Street, Abertawe oedd y targed ddydd Sadwrn. Llywyddwyd ar y cyfan yn anrhydeddus iawn gan y Parchg. Robert Bawden, un o'n Gweinidogion sydd wedi dysgu iaith y nefoedd yn rhagorol. Offrymwyd gweddi gan yr hynaws Barchg. Gareth Hutchinson. Darllenwyd o Air yr Arglwydd gan Denise Rees a'r teithiwr trenau Parchg. Rhun Murphy. Cyflwynwyd Derek Rees gan yr hynod Barchg. Meirion Morris, Llansannan a ddywedodd, ymysg pethau mwy sylweddol, y bod sawl hen ddynes o Sir Ddinbych yn drist na fyddent hwy ychydig yn iau a Derek Rees ychydig yn hŷn cymaint oedd ei argraff arnynt tra'n bwrw ei brentisiaeth yn y Sir. Yna daeth hi'n amser ar gyfer y ddefod gomisiynu·dan arweiniad y Parchg. Peter Thomas. Wrth arddodi dwylo offrymwyd gair o weddi gan gyn Weinidog Derek yn Eglwys y Bedyddwyr, Rhiwbina, y Parchg. David Ollerton ac yna daeth y cyfarfod i'w therfyn gyda chlamp o bregeth dda gan y Parchg. Vincent Watkins. Roedd y gwasanaeth yn un grymus ac yn teilyngu'r digwyddiad a'r achlysur ac roedd presenoldeb yr Arglwydd yn amlwg. Tystiodd lIawer i'r modd yr oedd yr Arglwydd wedi defnyddio Derek Rees yn y gorffennol a gweddiwyd, mewn ffydd a gobaith, y bydd yr Arglwydd yn ei ddefnyddio unwaith eto yn Ninas Abertawe. Daeth gweithgareddau'r dydd i ben gyda buffet of biblical proportions wedi ei ddarparu gan Gymanfa Gorllewin-Morgannwg. Bu canmol mawr ar y mini-corn beef pasties a'r cacennau siocled ond ymateb cymysg cafodd y brechdanau wy a'r pitzza's Ilysieuol. Ar nodyn personol carwn ddymuno bendith Duw ar waith a thystiolaeth fy nghyfaill Derek yn Abertawe. Fe gofiaf y tro hwnnw pan wnaethom ni gyfarfod am y tro cyntaf yn Neuadd Pantycelyn, Aberystwyth yn 2004. A hithau'n nos lau roeddwn i'n cerdded trwy'r neuadd ar y ffordd i gyfarfod yr Undeb Cristnogol pan ddaeth y cawr o ddyn allan o'i ystafell a gofyn os cai ddod gyda mi. 'Wrth gwrs', dywedais ac-er na fu iddo ymwneud a'pethau'r Arglwydd yn y"Gymraeg o gwbl cyn cyrraedd Aberystwyth yn las fyfyriwr, buan iawn y daeth yn aelod o'r Undeb, cychwyn gweddio yn Gymraeg ac yna codi i fod yn arweinydd naturiol arnom. Erbyn diwedd ein cyfnod yn y Brifysgol gwelsom rai o'n cyfeillion yn dod i sicrwydd ffydd yn yr Arglwydd lesu trwy gyfrwng gweinidogaeth Derek. Aeth ymlaen wedyn i ddilyn cwrs DAWN yn Llansannan, a byddwch chi mor feirniadol o'r fenter hon a mynnwch, ond does dim gwadu y gellid bod wedi colli Derek i'r eglwysi Saesneg oni bai i'r drws yma agor. Gan gydnabod nad ydyw'r IIwybr yma yn addas i bawb does dim gwadu fod pob enwad eisoes ar ei hennill o ganlyniad i fentergarwch DAWN. Aeth ymlaen wedi ei gyfnod yn Llansannan i weithio am flwyddyn gydag eglwysi'r Bedyddwyr yn Rhosllannerchrugog a phan ddaeth yr alwad iddo fynd i Abertawe, cymaint oedd ei ddylanwad wedi bod ar ieuenctid y cylch nes iddynt lunio deiseb a'i osod yn y Swyddfa Bost - yn galw am 'Gadw Derek yn y Rhos!'. Gellid son am gymeriad, hiwmor a chorffolaeth Derek gan eu bont hwy oll yn creu argraff ar bawb sy'n ei gyfarfod. Ond yr allwedd i ddeall yr enigma hwn ys gelwid Derek Rees yw ei ffydd ddiysgog yng ngrym Efengyl Crist, a'i ddisgwyliad i weld Ysbryd Duw yn ymsymud ymysg y Cymry Cymraeg eto. Rwyf fi'n diolch i'r Arglwydd am y cyfaill, y cyd-weithiwr a'r ysbrydoliaeth ag ydyw Derek yn gyson. Bendith Duw ar ei waith yn Abertawe.
Rhys Llwyd
|
|
Neilltio Derek. |