|
Cau Capeli |
|
Horeb, Sgiwen Eglwys y Bedyddwyr 1869 - 2009 Fe ddaeth cynulleidfa deilwng ynghyd i’r Gwasanaeth Datgorffori ar Ddydd Mercher, Ionawr 20fed, 2010. Er bod yr achlysur yn ei hanfod yn un trist, eto i gyd fe lwyddwyd, o dan lywyddiaeth medrus Y Parchg Robert Bawden, llywydd Cymanfa Gorllewin Morgannwg, i ganfod y gobeithiol a’r cadarnhaol o gofio er bod Capel yn cau, bod tystiolaeth y Crist atgyfodedig yn dal yn fyw. Darllenwyd gan un o gyn-weinidogion Horeb, y Parchg Vincent Watkins, a hynny o lyfr y Pregethwr - tymor i bopeth, ac o Epistol Cyntaf Paul at y Corinthiaid Pennod 13. Y Parchg Aled Jenkins, un o blant Horeb, a’n harweiniodd mewn gweddi ddwys a theimladwy cyn i’r brawd Glyndwr Gough, ysgrifennydd Horeb am y pedair mlynedd ar ddeg diwethaf, rhoi gwen ar ein gwynebau a llawenydd yn ein calonnau wrth olrhain gwaith a thystiolaeth yr Eglwys dros gynifer o flynyddoedd. Y Parchg Euros Miles, Arolygwr y Gymanfa, a bregethodd yn afaelgar ac effeithiol ar y rhinweddau y sonnir amdanynt gan yr Apostol Paul yn 1 Corinthiaid 13, sef ffydd gobaith a chariad. Y Parchg Aled Jenkins fu’n gyfrifol am ddefod y datgorffori, ac wedi geiriau dwys a dethol, fe gyflwynodd Beibl y Pulpud i ofal Mrs Eurfron Gough a dderbyniodd ar ran y chwaer Eglwys, Calfaria Sgiwen. Gorffennwyd yr oedfa yn sŵn yr emyn a’r geiriau cwbl obeithiol “Cododd Iesu” I Dduw bo’r clod a’r diolch am 140 o flynyddoedd o bregethu a thystio i’r Arglwydd Iesu yn Horeb Sgiwen.
Cau Capel Bethel, Pont-rhyd-y-fen. Daeth cynulleidfa luosog ynghyd ar brynhawn Sul, 6ed Rhagfyr, i oedfa datgorffori eglwys Bethel, Pont-rhyd-y-fen. Yn eu plith yr oedd aelodau’r eglwys ym Methel ynghyd â chynrychiolwyr o Gymanfa Bedyddwyr Gorllewin Morgannwg ac Undeb Bedyddwyr Cymru. Yr oedd yn achlysur dwys a thrist a bu’n benderfyniad anodd i’r aelodau sy’n weddill ddirwyn yr achos i ben. Bu’r cyfrifoldeb o gynnal adeilad a oedd yn prysur ddadfeilio a’r pydredd oddi mewn iddo’n rhemp, brofi’n ormod o faich i’r ddiadell fechan. Wrth gydymdeimlo â hwy yn eu gwewyr, diolchwn iddynt am eu dycnwch a’u dyfalbarhad ar hyd y blynyddoedd. Corfforwyd eglwys Bethel ym 1850 a chynhaliwyd o fewn muriau’r capel dystiolaeth egnïol i’r Arglwydd Iesu am yn agos i 160 o flynyddoedd. Llywiwyd oedfa’r datgorffori, a hynny ar wahoddiad yr eglwys, gan y Parchg. Peter M. Thomas, Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb Bedyddwyr Cymru. Cyfeiriwyd at y ffaith mai pobl yw’r eglwys ac nid lle, praidd ac nid corlan, cynulliad crediniol ac nid adeilad cysegredig. Tanlinellwyd y ffaith, er ein bod yno i gau’r adeilad, y byddai eglwys Crist yn brasgamu ymlaen yn ei thystiolaeth a’i chenhadaeth. Cafwyd gwefr wrth gyd-addoli ac fe erys y digwyddiad yn atgof cysegredig i’r rhai a oedd yno’n bresennol. Diolchwn i Miss Rita Rosser ( ysgrifenyddes yr eglwys) am ei gwasanaeth wrth yr organ a’i hymroddiad i ganiadaeth y cysegr ym Methel ar hyd y blynyddoedd ac i Miss Nerys Owen am y datganiad gwefreiddiol o’r salm-dôn yn seiliedig ar eiriau o Salm 86 “Clyw O Arglwydd fy ngweddi a gwrando ar fy ymbil.” Cyflwynodd Mr Phylip Rosser eiriau dethol a graenus o werthfawrogiad ac ef a gariodd y Beibl Mawr o’r pulpud ac allan o’r adeilad ar derfyn yr oedfa. Cariwyd Beibl Eglwys Jerwsalem a oedd wedi ymuno â chynulleidfa Bethel wedi i’r capel hwnnw gau, gan Mr Geraint Jenkins. Mawrygwn enw’r Arglwydd am yr achos ym Methel, Pont-rhyd-y-fen. Boed i Dduw droi ein machludoedd yn wawr gobaith, ein siom yn llawenydd a’n methiant yn gyfrwng bywhad. |
|
Digwyddiadau |