Bedyddwyr Gorllewin Morgannwg

 West Glamorgan Baptists

WGB

BGM

Ar 1 Hydref 1649, sefydlodd John Miles yr Eglwys Fedyddiedig gyntaf yng Nghymru yn Ilston ym Mro Gŵyr.  Roedd aelodau’r eglwys yn wasgaredig – heblaw’r rhai lleol daeth rhai o ardal Felinfoel, Aberafan, Margam a mannau eraill.  Yn fuan iawn wedyn, plannodd Miles 5 eglwys newydd yn yr ardaloedd hyn.  Ym mis Tachwedd 1650 trefnodd y Gymanfa gyntaf yn Ilston a gelwid hi’n Gymanfa  John Miles.  Pwrpas y Gymanfa oedd rhoi cyfle i aelodau’r gwahanol eglwysi ddod i adnabod ei gilydd, rhannu eu cred a chynnig trefn a disgyblaeth ar faterion eglwysig.

Erbyn heddiw, mae 63 o eglwysi yng Nghymanfa Gorllewin Morgannwg. Llywydd y Gymanfa y flwyddyn hon, 2009/2010, yw’r Parchedig Robert Bawden, Noddfa Newydd Tonna a Bethania Clydach; yr Ysgrifennydd yw’r Parchedig H Vincent Watkins, Carmel Pontlliw, yr Arolygwr yw’r Parchedig D Euros Miles, Noddfa Porthcawl a Ruhamah Pen-y-bont ar Ogwr; y Trysorydd, a hynny ers 1974, yw’r chwaer Meinir George, Calfaria Clydach.

Iorwerth Mort.

Hanes

Cymanfa Gorllewin Morgannwg

 

Teyrnged i’r diweddar 

Barchedig Daniel Gareth Hutchinson

gan Gareth Mathias