
|
Cymanfa Gorllewin Morgannwg |
|
Cyfarchion |
|
Anerchiad |
|
Capel Gomer |
|
Undeb Llanelli 2010 |
|
Digwyddiadau |
|
Hafan |
|
Hanes |
|
Gwefannau |
|
Swyddogion |
|
Yr Eglwysi |
|
English |
|
Bedyddwyr Gorllewin Morgannwg
West Glamorgan Baptists
|
|
M |
|
G |
|
B |
|
B |
|
G |
|
Ar 1 Hydref 1649, sefydlodd John Miles yr Eglwys Fedyddiedig gyntaf yng Nghymru yn Ilston ym Mro Gŵyr. Roedd aelodau’r eglwys yn wasgaredig – heblaw’r rhai lleol daeth rhai o ardal Felinfoel, Aberafan, Margam a mannau eraill. Yn fuan iawn wedyn, plannodd Miles 5 eglwys newydd yn yr ardaloedd hyn. Ym mis Tachwedd 1650 trefnodd y Gymanfa gyntaf yn Ilston a gelwid hi’n Gymanfa John Miles. Pwrpas y Gymanfa oedd rhoi cyfle i aelodau’r gwahanol eglwysi ddod i adnabod ei gilydd, rhannu eu cred a chynnig trefn a disgyblaeth ar faterion eglwysig. Erbyn heddiw, mae 63 o eglwysi yng Nghymanfa Gorllewin Morgannwg. Llywydd y Gymanfa y flwyddyn hon, 2009/2010, yw’r Parchedig Robert Bawden, Noddfa Newydd Tonna a Bethania Clydach; yr Ysgrifennydd yw’r Parchedig H Vincent Watkins, Carmel Pontlliw, yr Arolygwr yw’r Parchedig D Euros Miles, Noddfa Porthcawl a Ruhamah Pen-y-bont ar Ogwr; y Trysorydd, a hynny ers 1974, yw’r chwaer Meinir George, Calfaria Clydach. Iorwerth Mort. |
|
W |
|
Eglwysi Treforus |