

|
Bedyddwyr Gorllewin Morgannwg
West Glamorgan Baptists
|
|
M |
|
G |
|
B |
|
B |
|
G |
|
Anerchiad y Llywydd |
|
W |
|
Cyfarchion |
|
Anerchiad |
|
Capel Gomer |
|
Undeb Llanelli 2010 |
|
Digwyddiadau |
|
Hafan |
|
Hanes |
|
Gwefannau |
|
Swyddogion |
|
Yr Eglwysi |
|
English |
|
Eglwysi Treforus |
|
Oedfa'r Llywydd Siloam Brynaman, Mehefin 2010. Yn y lle cyntaf, a gaf fi ddiolch o waelod calon am yr anrhydedd o gael esgyn i Gadair Llywydd Cymanfa Bedyddwyr Gorllewin Morgannwg am eleni. Nid oeddwn wedi meddwl am y peth ond gadawodd yr Ysgrifennydd neges ar fy ffôn gartref pan oeddwn i ffwrdd ar wyliau y llynedd, ac yr oedd am i mi ystyried derbyn y swydd, ac felly dyma fi yma. A gaf fi hefyd ddiolch i'r Eglwys hon yn Siloam am fy nghefnogi i. Mae'n fraint fawr i dderbyn y swydd ac rwy'n teimlo yn ostyngedig iawn a gobeithiaf y medraf ei llanw hi i'r ymylon. Fel y gwyddoch dyn dŵad wyf fi i Frynaman ond yr wyf bellach wedi bod yma am dros ddeugain mlynedd, ac wedi ceisio cymryd fy rhan o fewn i'r pentref, ac o fewn i wahanol fudiadau. Diolch hefyd i'r ddau ddiacon yn Siloam sef Fred Davies am ddarllen o Lyfr y Salmau ac hefyd i Helen wrth yr organ ac i aelodau’r Eglwys hon am eu cefnogaeth a’u gwaith yn ystod y Gymanfa. DYLANWADAU Fe glywsoch chi tair Salm yn cael ei darllen yn gynt yn yr oedfa ac mae'r hyn sydd gennyf i'ch sylw heno yw geiriau o'r dair salm. Nid wyf yn proffesu i fod yn siaradwr huawdl ond gobeithiaf y cewch fendith o'r oedfa hon. Beth sydd yn dylanwadu ar berson? - Dylanwad rhieni, new frawd neu chwaer, tad-cu, mam-gu, neu berthnasau eraill yn y teulu. Dylanwad Ysgol Sul, capel, Ysgol elfennol, Ysgol uwchradd, ac yna yn dechrau gweithio a dod 0 dan ddylanwad cyd weithwyr, a'r rheolwyr. GalIaf ddod i lawr i dri gair sef - mynyddoedd, adeiladau a mawl. Rwyf am gyfeirio eich meddyliau yn gyntaf at yr adnod gyntaf yn salm 121, a daw'r holl adnodau o gyfieithiad yr Esgob William Morgan. "Dyrchafaf fy llygaid i'r mynyddoedd, o'r lle y daw fy nghymorth" Mae yna lawer o sôn yn y Beibl am fynyddoedd, er enghraifft ar Fynydd Sinai y derbyniodd Moses y Deg Gorchymyn, ac ar ochr Mynydd Carmel yr heriodd y proffwyd Elias broffwydi Baal a'u gorchfygu. Ceir hanes Noa a'i deulu ar ben Mynydd Ararat, lle yn ôl llyfr Genesis fe orffwysodd arch Noa wedi'r dilyw. Mynydd arall sydd yn bwysig yn hanes y Genedl Iddewig, oedd Mynydd Moreia, lle dygodd Abraham ei fab Isaac i 'w aberthu i Dduw. Ar fynydd Horeb bu farw Aaron brawd Moses, a bu galar mawr ar ei ôl. Bu Moses yn bugeilio defaid Jethro ar Fynydd Horeb, ar ôl iddo ffoi o'r Aifft rhag llid y Brenin Pharo, gan ei fod wedi lladd Eifftiwr. Ar Fynydd Horeb cafodd y weledigaeth fawr o weled y berth yn llosgi heb ei difa. Arweiniodd Moses ei bobl drwy ffordd y mynyddoedd er mwyn osgoi diffaethwch caled Paran, a bu'n crwydro am ddeugain mlynedd, cyn iddo gael ei alw gan Dduw. Daethant at droed Mynydd Sinai, ac nid oedd y bobl wedi gweld mynydd fel hwn o'r blaen. Roedd ei ben wedi ei orchuddio a chwmwl trwchus ac roedd sŵn y taranau a'r mellt tanllyd a ddeuai o'i grombil mor gryf fel y dychrynwyd y bobl yn fawr. Daeth i lawr o'r mynydd a chroen ei wyneb yn disgleirio ac wrth ddod i lawr daeth gyda neges Duw yn drysor amhrisiadwy i bobl yr Arglwydd drwy'r oesau hyd heddiw. Bu farw Moses ar ben Mynydd Nebo o fewn cyrraedd i Wlad yr Addewid, ond ni chafodd y fraint o fynd i mewn i'r wlad honno. Awn ymlaen i'r Testament Newydd a son am Iesu ar Fynydd yr Olewydd. Croeshoeliwyd Ef ar ben Bryn Calfaria dros ein pechodau ni, ac yna ar ôl ei Atgyfodiad o'r bedd clywn am ei ymddangosiad ar Fynydd y Gweddnewidiad. Fe'm ganwyd i mewn tŷ' ar Heol Llanllienwen, Cwmrhydyceirw, ac wrth edrych allan drwy ffenestr yr ystafell wely gwelwn Mynydd Gelliwastad. Pan oeddwn yn fach dim ond ychydig o ffermydd a chaeau oedd rhwng y tŷ a'r Mynydd yma ond oddiar diwedd y chwe degau o'r ganrif ddiwethaf codwyd cannoedd o dai ac hefyd draffordd yr M4, ac felly collwyd peth o'r olygfa. Fel plant byddem yn cerdded i fyny i'r Mynydd dros y llwybrau oedd wedi bodoli ers blynyddoedd lawer gan basio yn agos i Blas Gwernfadog sef cartref William Martin a John Player y bobl a welodd yn dda i roddi tir mewn pentrefi er mwyn codi Capeli. Wrth nesáu at yr heol cyn dringo'r mynydd roedd yna ffynnon a'r dwr crisial oer yn byrlymu ohoni. Arferwn mynd ar ein gliniau er mwyn cael ychydig o'r dwr gloyw glan yma cyn mynd ymlaen ar ein taith. Yng nghesail y ddau fryn ar y mynydd yr oedd fferm y Banwen lle trigau tad-cu fy nhad, felly fe welwch fod yna dyndra at y Mynydd hwn. Ar ôl, priodi ac ymsefydlu ym Mrynaman, bob bore gwelaf y Garreg Lwyd 2027 o droedfeddi yn rhan o'r Mynydd Du. Mae hwn dipyn yn uwch na Gelliwastad ond mae yna olygfeydd godidog o ben y ddau fynydd. Tair wythnos yn ôl bûm ar wyliau i weled y Pasiant yn Oberammergau. Dyma gyfle unwaith eto i weled y ddrama fawr sydd yn cael ei perfformio bob deg mlynedd, am fod y pentrefwyr wedi ei hachub o effeithiau y pla ganrifoedd yn ôl. Roedd yr adeilad yn dal 5,000 0 bobl ac eleni roedd rhai yn ein rhes ni o'r ynysoedd yna yn y Caribî ger Fenesuela. Bu'r perfformiad yma unwaith eto yn wefreiddiol a'r distawrwydd oedd yn yr adeilad pan berfformiwyd y ddrama. Gellir fod wedi clywed pin yn cwympo. Fel rhan o'r daith aethom o'r Almaen ymlaen i wlad y Swisdir, a'r bws yn dringo'r heolydd serth a chorneli tyn iawn. Roedd tro'r Gwcw ar y Mynydd Du yn ddim i 'w gymharu. Mynd ymlaen nes cyrraedd pentref Samnoun a'r mynyddau o'n hamgylch a'i copaon yn wyn gan eira. Roedd y mynyddoedd yma yn 9000 o droedfeddi uwchlaw'r môr! Golygfeydd arbennig o'r holl fynyddoedd yn yr ardaloedd hynny sydd yn rhan o'r Alpau. Ysgrifennodd Edmwnd Prys "Disgwyliaf o'r mynyddoedd draw, Ple daw i'm help wyllysgar" Yn nistawrwydd y mynydd canodd Myfyr Hefin neu D Bowen y penillion: Ar y mynydd gyda Duw O mor ogoneddus yw, Dwndwr pechod byd ymhell Ninnau gyda'r bywyd gwell.
Ar y mynydd gyda Duw Dyma nefol fan i fyw Gweld yr haul yn codi draw Gweld boreau Duw gerllaw. Faint ohonoch sydd wedi croesi'r Mynydd Du a'r wawr yn torri? Mae'n olygfa odidog - gweld y goleuni yn codi o funud i funud a'r cysgodion a'r tywyllwch yn ffoi.
Mae gennym fel anghydffurfwyr lawer o addoldai ar ben mynyddoedd - Capel Mynydd Bach, Treboeth, Gellionnen, Capel y Gwrhyd, Capel y Baran, Gerasim ger Mynydd Betws, a Hen Fethel sydd ar lethrau'r Mynydd Du yn Nglanaman yn ein hardal ni. Wrth gwrs roedd ein tadau yn codi addoldai mewn cymoedd ddiarffordd neu ar ben mynyddau lle yr oedd y pererinion yn cerdded milltiroedd o wahanol gyfeiriadau. Pwrpas hyn oedd bod yr Eglwys a'r Llywodraeth yn cosbi'r bobl am addoli y tu allan i'r Eglwys wladol. Cofiwn hefyd am addoldai a gaewyd fel Mynydd Epynt oherwydd i'r Llywodraeth gymryd y tir er mwyn hyfforddi milwyr, neu Gapel Celyn a foddwyd yn y 60au y ganrif ddiwethaf er mwyn i Ddinas Lerpwl gael mwy o ddŵr ac felly traddodiad crefyddol yn dod i ben. Gwrandewch ar ragor o benillion emynau Ni wrthyd neb a ddaw Ei air sydd yn ddi-lyth Er symud o'r mynyddoedd draw Saif ei gyfamod byth.
Er mwyn dy Grog a'th angau drud Ar Fynydd Calfarî A'th ddwys eiriolaeth yn y nef O Dduw na wrthod fi
A'm pwys ar fraich y Dwyfol nerth Mynyddoedd serth a ddringaf A heriaf nwyd y ffyrnig don Os caf fi hon odanaf
Dywed i mi pa ddyn a drig I'th lys barchedig Arglwydd A phwy a erys ac a fydd Ym Mynydd dy Sancteiddrwydd.
Mae yna amryw o emynau eraill yn sôn am fynyddoedd. Mae'r mynyddoedd y soniais amdanynt wedi dylanwadu arnaf ar hyd y blynyddoedd ac rwyn siŵr eich bod chwithau hefyd wedi eich dylanwadu i ryw raddau gan rhai mynyddoedd. Yn ail a gaf fi droi at Salm 84 a rhan o adnod 4 "Gwyn fyd preswylwyr dy dŷ"
Efallai yr ydych wedi canu anthem Joseph Parry "Pebyll yr Arglwydd" a'r geiriau yn seiliedig ar rhai adnodau yn Salm 84. Mae'n dechrau yn araf a distaw "Mor hawddgar yw dy bebyll Di o Arglwydd" ond ar ôl 16 bar cerddorol mae'r tempo yn codi a'r geiriau "Gwyn fyd preswylwyr dy dŷ" yn cael ei ganu ... gyda arddeliad a gallaf glywed y nodau cryf ar yr organ yn atsain drwy'r adeilad. Cafodd y rhan yma o'r adnod ddylanwad mawr arnaf fi ers yn blentyn oherwydd dyma'r union eiriau ar y sgrôl a beintiwyd ar fur cefn y pulpud yn y Tabernacl Cwmrhydyceirw. Roedd yr un geiriau yn union wedi ei peintio ar y wal yn Horeb Sciwen ond yn anffodus caewyd y capel yma ynghynt eleni. Efallai fod y geiriau yma wedi ei dangos ar nifer o furiau mewn llawer i dŷ cwrdd yng Nghymru. Sylwch yr oeddwn yn gweld hwn bob tro yr oeddwn yn mynd i'r capel, ac yr oeddwn yn methu deall paham yr oedd y ddau air dy dy yn swnio'n wahanol, dim ond oherwydd yr oedd to bach ar yr ail "dy". Pan aethum yn henach yr oeddwn yn deall y gwahaniaeth. O fynd i'r capel bob SuI yr oeddwn yn dod o dan ddylanwad y diaconiaid ac athrawon yr Ysgol SuI. Nid oedd cefn i'r sedd fawr ac yr oedd ar y pryd hynny gadeiriau hanner cylch yn y sedd fawr. Yn y sedd fawr hefyd yr oedd y ffynnon fedydd, ac arferid codi'r carped ac yna codi'r llawr i fyny. Yno fe'm bedyddiwyd i gan y Parch J S Roberts, Soar Treforys ac yna fe'm derbyniwyd yn gyflawn aelod o'r Eglwys gan ein cyn weinidog Parch W. J. Charles a fu'n gweinidogaethu ym Mhonthenri. Nid oeddwn pan yn ieuanc yn gwybod paham yr oedd y dynion yma yn eistedd yn y set fawr, ond roedd un ohonynt yn dad-cu i mi, a'i wallt yn wyn. Cofiaf am yr hen frodyr yma yn eistedd ac yn gwrando ac yn codi a throi fan fyddent yn canu emynau. Roedd yna William Morgan Hopkins, ac ef oedd yn cyhoeddi, yna Tadcu, George Lewis, ac weithiau y deuai Albert Harris i eistedd yn y sedd fawr. Y r oedd yn ddiacon, ond yr oedd hefyd yn pregethu mewn eglwysi eraill. Ar hyd y blynyddoedd, etholwyd pedwar o frodyr mam yn ddiaconiaid yn y Tabernacl, ac hefyd fy nhad, a bu ei frawd yn ddiacon yng Nghalfaria Treforys. Bu mam yn Lywydd Adran y Chwiorydd o Eglwysi Rhyddion Treforys ac hefyd dderbyn medal am ei ffyddlondeb i'r Ysgol SuI. Pan oeddwn yn blentyn arferai nifer o blant fynd i'r Ysgol SuI ac yna ail ddechreuwyd y Band of Hope ac yr oeddem yn cael ein dysgu i berfformio rhyw opereta yn y Festri drws nesaf - sef y capel cyntaf. Yn yr Ysgol SuI yr oedd dosbarth o fechgyn o wahanol oedran a byddai William Morgan yn ein dysgu y wyddor Gymraeg, ac yna werslyfrau, cyn symud ymlaen i ddarllen y Testament Newydd. Byddai Pen Cwarter yr Ysgol SuI yn dod yn ei dro ac felly roedd yn rhaid mynd at Anti Meri i gael dysgu canu, ac yna canu ar ben y sedd yn y set fawr. Y r emyn cyntaf a ddysgais oedd Mae gennyf adnod fechan Fy adnod gyntaf yw A dyma beth ohoni "A'r gair oedd gyda Duw" Ac Anti Meri oedd yn dysgu adrodd hefyd ac os cofiaf y darn Dacw fe y pwff pwff trên Draw wrth droed y mynydd hen Yr oedd y rheilffordd yn mynd drwy'r pentref ac yr oeddem ni fel plant yn medru gwylio'r trenau o wahanol lefydd, ac efallai mewn leoedd peryglus ambell dro. Yn y dosbarth Ysgol SuI oedd yna rhai bechgyn ychydig yn henach na mi ac y mae'r rhaid sôn am un sef Alan Rees. Yr oedd ei dad yn Gymro Cymraeg ond roedd ei fam yn Siarad Saesneg. Deuai i'r Ysgol SuI ac fe ddysgodd chwarae organ y capel gan ein horganydd Daniel Byron Hopkins. Pan oedd ychydig yn henach aeth i Eglwys St David’s Treforys lIe yr oedd yn chwarae'r organ cynd mynd ymlaen i Eglwysi eraill ac i'r Brifysgol ac astudio cerddoriaeth. Pan ddaeth y Pab i Gymru yn 1982 ef a ysgrifennodd yr holl gerddoriaeth i'r ymweliad o'r Fatican. Yr oedd erbyn hyn wedi ymuno a'r Eglwys Gatholig ac aeth ymlaen i fod yn Abad ym Mynachdy Belmont. Roedd y Capel yn gymdeithas o deuluoedd a llawer o'r rheini yn perthyn i'w gilydd. Roedd fy mam yn un o with o blant - pum brawd a thair chwaer a threuliais lawer o flynyddoedd yn y cartref Gwynfa - enw a oedd ar wefusai nifer fawr o weinidogion a ddeuai i bregethu yno. Yr oedd brawd ieuengaf mam yn Ysgrifennydd y capel ac y gwyddwn i am Lawlyfr yr enwad pan yn ieuanc ac y byddai yn danfon cerdyn post i'r pregethwyr i 'w hatgoffa hwy y byddent yn pregethu gyda ni. Roedd hwn cyn dyfodiad y ffôn i'n cartrefi. Nid oeddwn yn gwybod beth oedd Gweinidog gan i'r Parch W J Charles symud pan oeddwn yn fabi, felly roedd rhywun gwahanol gennym bob SuI. Arferai y pregethwyr aros gyda teulu fy mam - roedd yna dri brawd a dwy chwaer yn ddibriod a dyna lle'r oedd fy ail gartref - cinio a the bron bob SuI ond yn dod i adnabod cymaint o weinidogion Bedyddiedig ac eraill. Roedd ganddynt organ Americanaidd yn y parlwr ac fe ddysgais innau chwarae sol ffa pan oeddwn tua saith oed wedi fy nysgu gan rhai o frodyr mam oedd heb gael gwersi chwarae o gwbl. Roedd yn amlwg i mi i gael fy nylanwadu yng Ngwynfa flynyddoedd yn ôl. Arferid cynnal Cwrdd Dosbarth i anrhegu y plant a oedd wedi llwyddo yn yr arholiadau Ysgol SuI a chofiaf fy mod wedi gorfod darllen Salm i gymryd rhan yn Seion Treforys. Pawb yn ei dro a minnau yn mynd ymlaen a darllen o hen gopi o'r Beibl. Dod yn ôl i'r sedd a chael stŵr am fy mod wedi gwneud rhywbeth yn anghywir. Yr oeddwn wedi ei ddarllen drwodd yn y tŷ, ond heb ei ddarllen o flaen mam A dyma'r geiriau "Dring rhagot yr efengylyddes Sion i fynydd tra uchel. Do fe ddysgais yn iawn wedi hynny! Roeddwn yn 12 oed pan brynwyd piano gan fy rhieni a chael gwersi piano ac mewn ychydig flynyddoedd cefais gyfarwyddyd sut i chwarae organ y capel. Dod o dan ddylanwad Wncwl Dan yr Organydd a chael cyfarwyddyd os oedd plentyn yn canu yn y sedd fawr yr oedd y gynulleidfa am glywed y plentyn ac nid myfi yn chwarae yr organ yn gryf ar y galeri ac yn boddi llais y plentyn. Ysgol brofiad! Bum yn ffodus fod fy rhieni wedi fy nanfon i Ysgol Gymraeg ei hiaith ¬ Lonlas a chael athrawon heb ei hael. Byddem yn cael gwersi ac yn gorfod dysgu yr emynau ar ein cof ac yn cael gwasanaeth bob dydd ond Bore Iau. Yn ystod un o'r gwersi hyn yr oedd yr athrawes wedi bod yn ein dysgu i ganu emyn y Parchg J J Williams (Y Tabernacl Treforys) ac yn sydyn gofynnodd gwestiwn pwy oedd J J Williams a dyma fy llaw yn mynd i fyny yn syth cyn y plant eraill. Brian - pwy oedd J J Williams a'r ateb fel ergyd Miss - Tadcu. Nid oedd yn aros am shwd ateb yr oeddwn yn iawn James Jenkin Williams oedd enw tad-cu - J J Williams. Ysgol brofiad unwaith eto ac ef oedd yn eistedd yn y sedd fawr nid y Parchg J J Williams. Do fe gawsom athrawon arbennig yn Lonlas ac mae pedwar ohonynt ar dir y byw o hyd. Dod o dan ddylanwad athrawon oedd yn mynychu'r capeli Cymraeg ac roedd y rhan fwyaf o'r plant yr adeg honno hefyd yn mynd i gapel neu Ysgol SuI. Symud ymlaen i weithio a chael dod o dan ddylanwad eraill ac ar yr adeg honno yr oedd nifer o'r staff yn mynd i le o addoliad. Dechrau mynd i'r Aelwyd yn y Tabernacl Treforys a dod o dan ddylanwad y Parch Trebor Lloyd Evans ac epilog ar ddiwedd y noson a phawb yn gorfod cymryd rhan yn eu tro. Mynd ymlaen i Ysgolion haf gan y BMS yn y Cilgwyn, Castell Newydd Emlyn ac eto dod o dan ddylanwad gweinidogion a chenhadon. Yr oedd hwn yn broses o dyfu i fyny. Soniais am fynd i'r Aelwyd yn y Tabernacl ond yr oeddwn wedi bod mewn gwersylloedd yr Urdd yn Llangrannog ac hefyd Glan Llyn ac yno yn dod o dan ddylanwad y swyddogion a rhaid oedd mynychu'r oedfaon a'r epilog a chael ein dysgu i gymryd rhan. Mae'r geiriau gwyn fyd preswylwyr dy dŷ yn cynnwys nid dim ond y rhai yn y capel ond hefyd y rhai oedd yn ein dysgu yn yr ysgolion, gwaith ac hefyd adloniant ac mae'r bobl hynny wedi dylanwadu ar ein cymeriadau ni ar hyd y blynyddoedd. Gallaf hefyd ddweud i mi ers ym Mrynaman wedi dod o dan ddylanwadau cyfoethog y Gweinidogion sydd wedi bod yn yr Eglwysi, ac yn Siloam ac efallai y gwelodd rhywrai rhywbeth yn fy nghymeriad, ac yn fy nghymell i dderbyn cyfrifoldeb megis yn yr Eglwys hon. Mae bywyd yn symud ymlaen ac yn awr fel y gwyddoch mae fy ngwraig hefyd yn Ysgrifennydd yn Ebeneser, a fy chwaer Elaine yn y Tabernacl. Efallai ei fod yn unigryw ond mae yn rhaid cydweithio yn enw ein Harglwydd, ac hefyd i wynebu'r dyfodol. Y r wyf yn ymwybodol fod pethau yn newid yn syfrdanol mewn nifer fawr o eglwysi yng Nghymru heddiw ond deil y ffyddloniaid ynghyd i foli'r Arglwydd pa le bynnag y maent. Yr wyf wedi bod mewn gwasanaethau mewn rali carafannau a phawb mewn cy1ch neu mewn eglwysi ar y cyfandir pan gawsom oedfaon Cymraeg ei hiaith yn yr Iseldiroedd a Llydaw a gweinidogion o Gymru yn arwain. Yn drydydd, yr adnod olaf o salm 150 sef adnod 6 "Pob perchen anadl, molianned yr Arglwydd. Molwch yr Arglwydd" Paham wyf wedi dewis yr adnod hon? Os edrychwch ar yr organ ar ddwy ochr y galeri yma fe welwch y geiriau yma ar ben uchaf y pibau yn yr organ. Rhai wedi ei dangos o’ch blaen chwi ac eraill ar yr ochr sydd yn gwynebu y pulpud. Paham yr ydym yn dod i'r oedfaon, ond i glodfori a moli yr Arglwydd Iesu Grist. Wrth ddyfod i'r oedfa yma heno yr ydym wedi dod o dan ddylanwad yr Arglwydd Iesu Grist. Os ydych wedi sylweddoli mae tri o'r emynau yr ydym yn eu canu heno yn son am Ganu i'r Arglwydd neu yn Moli yr Arglwydd. Pwrpas yr oedfaon yw moli yr Arglwydd ac yr ydym fel aelodau yn gwneud hynny bob tro yr ydym yn dod i Oedfa. Yr wyf eisioes wedi son am ddylanwad yr oedfaon mewn capel, mewn Ysgol neu ym mha le arall mae yna bobl wedi cwrdd. Mae rhai oedfaon arbennig wedi fy nylanwadu ar hyd y blynyddoedd, boed yn Gymanfa Ganu neu hyd yn oed oedfa weddi. Gall yr oedfaon hyn fod yn gyfle i ddiolch i Dduw am fywyd person sydd wedi ymadael a'r fuchedd hon, ac y mae rhywbeth yn eich cyffwrdd, pun ai yn y distawrwydd am ychydig eiliadau new fod y Gweinidog wedi dweud rhywbeth sydd wedi eich cyffwrdd yn ystod y gwasanaeth. Gall fod y canu yn arbennig pan fod yna gynulleidfa o ddynion neu rhyw gôr yno. Yr ydym yn ymgynnull i foli'r Arglwydd. Fe all y canu fod yn ddigyfeiliant neu bod yna organ bwerus yno , ond yr ydym yn moli yr Arglwydd yn y distawrwydd. Cawn brofiadau wrth sylweddoli fod yna ddistawrwydd ar brydiau yn newid naws gwasanaeth. Rhai blynyddoedd yn ôl cefais i ac efallai llawer o bobl oedd yn bresennol mewn Cymanfa Ganu yn Nhreforys pan wahoddwyd corau meibion, merched a chymysg yr ardal i uno mewn un Cymanfa gref. Yr oedd yr ymdeimlad y noson honno yn wefreiddiol ac efallai na allai y recordiad a wnaethpwyd gyfiawnhau y wefr a'r ymdeimlad o fod yn rhan yn yr oedfa hynny.
Yr ydym yn moli yr Arglwydd hefyd wrth ganu rhai o weithiau mawr Handel neu Mendelson mewn gwahanol gapeli neu neuaddau ac os oes yna gerddorfa neu fand pres yn cyfeilio mae awyrgylch y gerddoriaeth yn newid. Mae dylanwad cerddoriaeth wedi bod yn amlwg yn fy mywyd ar hyd y blynyddoedd ac yr wyf yn defnyddio'r dalent a roddwyd i mi i geisio sicrhau fod y moliant yn atseinio drwy'r adeilad. Mae yna Emyn yn y Llawlyfr Moliant a'r pennill I'r Drindod heb wahân Rhown fawl ar gan i gyd Boed Haleliwia ym mhob man Drwy bedwar ban y byd. Mae Nantlais wedi canu Pwy all beidio canu Moliant iddo Ef? Y mae Brenin Seion Wedi dod i'r dref Moliant, Moliant rhaid i blant roi Moliant, Moliant, moliant iddo Ef Moliant iddo Ef, Moliant iddo Ef. A beth am yr hen ffefryn nad yw yn y Llawlyfr Moliant Newydd ar y dôn "Mawlgan" a geiriau Spinther James Bendigedig fyddo'r Iesu Y r hwn sydd yn ein caru Ein galw o’r byd a'n prynu Ac yn ei waed ein golchi Yn eiddo iddo' i hun Y n eiddo iddo' i hun
Haleliwia, haleliwia Moliant iddo byth Amen Haleliwia, haleliwia Moliant iddo byth Amen
Yr ydych wedi clywed rhai o’r pethau sydd wedi dylawadu arnaf i, gan obeithio fod y rhannau o’r adnodau yma neu eraill wedi dod a dylanwadu arnoch chwi sydd yn yr oedfa hon heno. Amen. |