|
Bedyddwyr Gorllewin Morgannwg West Glamorgan Baptists |
|
WGB |
|
BGM |
|
Cyfarfodydd Blynyddol Cymanfa Gorllewin Morgannwg
Cynhaliwyd ym Methel Glyn-nedd Mehefin 6ed - Mehefin 8fed, 2011.
Dechreuwyd trwy gynnal Gymanfa Ganu ar y Nos Lun. Yr arweinydd oedd y brawd Eric Jones gyda Pastor Henry Dunn Williams yn llywyddu’n feistrolgar. Cafwyd noson hapus a llwyddiannus, gyda chanu addolgar a chynulleidfa deilwng a’r organydd, Mr Cecil James, ar ei orau. Bore Mawrth am 10 a.m. y Parchedig Robert Bawden ( cyn - lywydd) oedd yn gyfrifol am arwain yr oedfa weddi. Dechreuad defosiynol i’r Gynhadledd. Yn ystod y Gynhadledd cydymdeimlwyd a theuluoedd y diweddar Barchedigion Bryan John a Gareth Hutchinson a gweddïwyd yn dyner drostynt gan Pastor Henry Dunn Williams. Hefyd cafwyd adroddiadau gwahanol a chyfeiriwyd yn arbennig at waith John Derek Rees yng Nghapel Gomer ac eglwysi eraill o fewn y Gymanfa. Stori galonogol a phrawf digamsyniol fod Duw ar waith. Croesawyd y Parchedig Alwyn Evans i’n rhengoedd a soniwyd am yr oedfa sefydlu ym Mracla Penybont y Sadwrn cynt - Y Parchedig Steven Lee wedi cymryd gofal o’r Eglwys. Hefyd cyfeiriwyd at sefydlu'r Parchedig Peter Harries Davies ym Methesda Glanaman ar Fehefin 25, 2011 am 3 y.p. Yn y prynhawn, anerchwyd gan Mr Vivian Williams, llywydd Adran Gymraeg Undeb Bedyddwyr Cymru gan nodi profiadau cofiadwy blwyddyn ei lywyddiaeth. Roedd ysgrifennydd yr Undeb, y Parchedig Peter Thomas, hefyd yn bresennol, ac fe siaradodd am y pethau sy’n digwydd o fewn yr Undeb sy’n profi mai Duw byw yw ein Duw ni. Hefyd yn bresennol roedd y Parchedig Peter D. Richards a ysgogodd y Gynhadledd i rhannu profiadau a oedd eto yn tystio “ni fyrhawyd braich yr Arglwydd fel na ellir achub”. Cafwyd gair gan y brawd Glyndwr Prideaux, darpar lywydd yr Undeb, ac fe groesawyd pawb i’r Cyfarfodydd blynyddol ym Mhenuel Casllwchwr. Dymunwn bob bendith i Glyndwr i’r Eglwys ac i’r Undeb. Boed i ni brofi o ddylanwad adfywiol yr Ysbryd Glân. Nos Fawrth, Oedfa’r Llywydd, a Pastor Henry Dunn Williams ar ei orau yn traethu. Cynhaliwyd dwy oedfa bregethu ar Ddydd Mercher. Y Parchedig Peter D Richards yn y prynhawn a’r Parchedig Milton Jenkins yn yr hwyr. Y ddau ohonynt wedi gwasanaethu’n egniol ym Methel yn y dyddiau a fu. Roedd pawb yn tystio i ni gael gwledd ysbrydol. Diolchwn iddynt am anrhydeddu’r Gymanfa yn eu paratoi trylwyr. Do, fe brofwyd tridiau o lawenydd ac o galondid. Diolch i’r llywydd, y brawd Brian Humphreys am ei waith ar hyd y flwyddyn, i’r Eglwys ym Methel am yr holl baratoi, i Mrs Catrin Alun am gyfieithu ar y pryd ac i bawb a ddaeth ynghyd. Dymunwn yn dda i’r llywydd newydd, Pastor Henry Dunn Williams, ac i’r is-lywydd, Miss Aldyth Williams, a gweddïwn am wenau Duw i’r flwyddyn sydd i ddod. H. Vincent Watkins. Ysgrifennydd. |


