
|
Bedyddwyr Gorllewin Morgannwg West Glamorgan Baptists |
|
WGB |
|
BGM |
|
Cynhadledd Flynyddol Undeb Bedyddwyr Cymru Penuel Casllwchwr 3ydd - 6ed Gorffennaf, 2011
Nodir isod argraffiadau personol a diduedd ysgrifennydd oedd yn falch iawn o’i Gymanfa a’i Waredwr dros Gynhadledd Flynyddol yr Undeb eleni. Rwy’n ysgrifennu’r darn yma drannoeth yr Undeb wedi cael am y tro cyntaf erioed y mwynhad a’r fendith o dreulio pedwar diwrnod cyfan, o fore Sul tan brynhawn Mercher, yn y Gynhadledd a gynhaliwyd eleni ym Mhenuel Casllwchwr, Cymanfa Gorllewin Morgannwg. Yr oedd yn dda cael adnewyddu perthynas â brodyr a chwiorydd yn yr Arglwydd Iesu. Mwynheuais gwmni Mr Orwig Owen, er enghraifft, mab i un o gyn-weinidogion Penuel sef y diweddar Barchedig D Caradog Owen. Diolchwn i Orwig am y weddi ddwys a offrymwyd ganddo yn Oedfa’r Llywydd. Fe ges i dipyn o gwmni'r brawd Denzil Harris, ysgrifennydd diwyd Penrhiwgoch hefyd. Maddeued Denzil i mi am ei alw yn Derek yn fwy aml na Denzil – efallai am fy mod yn treulio gymaint o amser yn mentora Derek Rees. Fe brofais fendithion lu yn oedfa gymun fore Sul. Y pregethwr gwadd oedd y Parchedig Victor H Evans, un arall o gyn-weinidogion Penuel. Cafwyd oedfa a phregeth i’w trysori. Yn yr hwyr, cynhaliwyd Cymanfa Ganu dan arweinyddiaeth fedrus Mr Jonathan Rogers, llywyddiaeth feistrolgar y Parchg Heini Jones gyda Mr Alun Tregelles Williams, mab i’r diweddar gyn-weinidog O Tregelles Williams, yn cyfeilio wrth yr organ. Cafwyd oedfa addolgar a chanu cynnes. Darlledwyd yr oedfa a daw cyfle i wylwyr S4C weld y rhaglen ar “Dechrau Canu Dechrau Canmol” yn Chwefror 2012. Fore Llun, cefais y fraint o gynnal oedfa gyda chymorth fy nghyfaill cywir y Parchedig D Islwyn Davies yn Ilston ar Benrhyn Gŵyr. Yn Eisteddiad Cynta’r Gynhadledd yn y prynhawn, yn ôl ym Mhenuel, cafwyd cyflwyniadau cofiadwy gan Fudiad y Chwiorydd a Chyngor yr Ysgolion Sul. Un o uchafbwyntiau’r prynhawn oedd cael y cyfle o wrando'r Dr Mererid Hopwood yn traethu darlith y Gymdeithas Heddwch. Teitl y ddarlith oedd, Cymru’r Dyfodol: “Cylch yn Treiglo” neu “Crud yn Siglo”? Cafwyd tipyn o angerdd yn y ddarlith a noder ei bod wedi’i chyhoeddi a’i bod ar werth gan y Parchedig Denzil John am £2 y copi. Mae’n werth ei darllen, mynnwch gopi ar frys! Cwrdd Dosbarth Cylch Tregŵyr fu’n gyfrifol am oedfa gyhoeddus yr hwyr pan gyflwynwyd eitemau amrywiol a’r cyfan wedi’i gyflwyno’n hyfryd iawn gan Bethan Mair a Nia. Arweiniwyd Addoliad Agoriadol fore Mawrth gan y Parchg Eirian Wyn a thynnodd sylw at eiriau’r Iesu, “Chwi yw halen y ddaear”, ac aeth ymlaen i sôn yn gofiadwy am rinweddau halen. Yn Ail Eisteddiad y Gynhadledd cafwyd cyflwyniad grymus a gobeithiol gan Ysgrifennydd Cyffredinol yr Undeb, y Parchg Peter Thomas. Diolchwn iddo ac i’r Parchg Marc Owen a gweddill y staff yn Y Llwyfan am arweinyddiaeth ddoeth a dyrchafol yn ystod y Gynhadledd a thrwy gydol y flwyddyn. Wedi’r cyflwyniad, braf oedd gwrando (a chafwyd sawl cyfle yn ystod y dydd!) ar y brawd annwyl a hoffus, John Derek Rees, yn adrodd y stori dda am Gapel Gomer a rhai eglwysi cyfagos sy’n profi, “Ni fyrhawyd braich yr Arglwydd fel na allo achub.” Yn glo ar waith y bore oedd Cyflwyniad Cymanfa Gorllewin Morgannwg. Diolchwn yn gynnes iawn i’r Parchg Eirian Wyn, Miss Aldyth Williams a Mrs Sarah East, Seion Newydd Treforus, am yr holl waith wrth baratoi ar gyfer y cyflwyniad. Gwledd i’r llygad oedd y faner o waith pwyth croes manwl yn enwi pob eglwys Fedyddiedig sy’n perthyn i’r Gymanfa a osodwyd ar glytwaith cywrain. Cynlluniwyd a pharatowyd y faner gan Helen Jones, Jean Evans, Sarah East ag Aldyth Williams. Cymerwyd rhan yn y cyflwyniad gan Linda Gimblett a adroddodd gywydd croeso gan y Prifardd Robat Powell; y brawd Trefor C Davies a’r Parchg D Islwyn Davies fu’n paratoi ac yn cyflwyno peth o hanes dechreuadau’r Bedyddwyr ym Mro Gŵyr a Chymru; rhai o ddisgyblion Ysgol Gyfun Gŵyr yn cyfrannu ar gân i gyfeiliant piano a ffidil. Yn ogystal, adroddodd Mrs Carol Hughes, Ainon Ystradgynlais, ar waith rhai o aelodau Cwrdd Dosbarth Ystalyfera yn ymweld ag ysgolion lleol o dan gynllun “Agor y Llyfr”. Diddorol nodi bod y cynllun hwn wedi ysgogi’r Cwrdd Dosbarth i ailsefydlu ac yn hybu gweithgaredd yn eu plith. Yn y prynhawn cafwyd adroddiad gan Derek Rees yn trafod “Ein Cenhadaeth” ac yn dilyn cafwyd cyflwyniad gan Delyth Wyn Davies ar ran y BMS. Daeth y ddau siaradwr â chryn dipyn o frwdfrydedd ac ysbrydoliaeth i’w cyfraniadau. Llywyddwyd holl sesiynau dydd Llun a Mawrth yn ddeheuig a doeth gan Lywydd yr Undeb, Mr Vivian Williams, Bethel Llanelli. Yr oedd Oedfa’r Llywydd yn yr hwyr, hefyd, o dan lywyddiaeth Mr Vivian Williams ac wedi’r rhannau arweiniol neilltuwyd y llywydd newydd, y brawd Glyndwr Prideaux, Penuel Casllwchwr, gan yr Ysgrifennydd Cyffredinol. Wedi’r neilltuo traddodwyd anerchiad gan y llywydd newydd ar thema’r Gynhadledd, “Cyfeiriadau Newydd”. Diolchwn am oedfa arall ag arni wlith y nefoedd. Y Parchg Eirian Wyn fu’n ein harwain unwaith eto yn Astudiaeth fore Mercher. Trafododd y gair “gobaith” a chawsom ein hatgoffa nad oes i ni obaith yn neb ond Iesu. Yn ystod Trydydd Eisteddiad y Gynhadledd cyflwynwyd yr is-lywydd, Mrs Hazel Williams-Jones. Wrth ymateb croesawodd y Gynhadledd i gwrdd y flwyddyn nesa yng Ngholeg Llys Fasi ar Gorffennaf 11 – 13. Wedi’r toriad am goffi cynhaliwyd Oedfa’r Weinidogaeth. Y pregethwr oedd y Parchg D Islwyn Davies a oedd yn amlwg wedi derbyn deuparth o’r Ysbryd wrth draethu gydag arddeliad anghyffredin o gofiadwy. Yr un profiad a gafwyd yn yr Oedfa Bregethu yn y prynhawn pan fu Arolygwr ein Cymanfa, Y Parchg D Euros Miles, yn traethu gydag argyhoeddiad a brwdfrydedd mawr. Cafwyd diweddglo hyfryd i’r holl weithgareddau pan wahoddwyd y cynrychiolwyr gan eglwys Penuel i ymuno â hwy o gwmpas Bwrdd yr Arglwydd. Yr oedd ordinhad y cymun o dan ofal y Parchg D Hugh Francis, cyn-weinidog Penuel, ac mor dda gan bawb ohonom oedd ei weld yn ddigon iach wedi misoedd hir o salwch i’n croesawu ni at y Bwrdd. Gweinyddod yr ordinhad mewn ffordd ddiymhongar ac emosiynol. Cofir yn hir am Undeb Penuel, ac wrth ddiolch i’r brawd Glyndwr Prideaux a’r tîm i gyd am eu gwaith trylwyr, eu croeso brwd a’u gweinu siriol, dywedwn ninnau, “Nid i ni, O Arglwydd, nid i ni, ond i’th enw dy hun dod ogoniant.” Gweddïwn fod y cyfan wedi bod yn gyfrwng i ddyrchafu enw Iesu, a’n hysbrydoli ninnau o’r newydd i ddilyn yn agosach, ac i wasanaethu yn llwyrach y Gŵr a fu gynt o dan hoelion drosom ni. Dymunwn fendith y Nef i Glyndwr yn ystod blwyddyn ei lywyddiaeth, a diolchwn i Dduw am yr hyn a gafwyd dan lywyddiaeth ein brawd annwyl Vivian Williams. O.N. Ar ddiwedd y Gynhadledd daeth y newyddion trist am farwolaeth mam Ysgrifennydd Cyffredinol yr Undeb. Mae ein gweddïau o dy blaid Peter yn dy golled a’th hiraeth.
H. Vincent Watkins Ysgrifennydd Cymanfa Bedyddwyr Gorllewin Morgannwg
|


